Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Ionawr 2012

 

 


Adroddiad ar yr amserlen i ystyried Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

1.    Ar 30 Ionawr 2012, cafodd Bil y Comisiwn, ‘Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), ei gyflwyno yn y Cynulliad.   

2.    Ar 24 Ionawr 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chytuno arnynt.

3.    Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 4 Mai 2012.

4.    Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 22 Mehefin 2012, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.